Eglwys Padarn Sant – Croeso

GWASANAETHAU’R SUL YN EGLWYS LLANBADARN 03.10.2021

Bydd y gwasanaethau yn Gymraeg yn dechrau am 10.00am bob Sul. Bydd y gwasanaethau yn Saesneg yn dechrau am 11.15am bob Sul. 

Croeso

Croeso cynnes i Eglwys Padarn Sant yn Llanbadarn Fawr, yn Esgobaeth Tyddewi, o fewn i’r Eglwys (Anglicanaidd) yng `Nghymru. Rydym yn rhan o fywoliaeth grŵp Llanbadarn Fawr ac Elerch a Phenrhyn-coch a Chapel Bangor yn Ardal Weinidgoaeth Leol Bro Padarn. Rydym ni, sy’n addoli yn yr eglwys hon ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, yn ymwybodol iawn ein bod yn llinach Cristnogion a fu’n addoli yma er y chweched ganrif o leiaf. Ein braint ni a’n cyfrifoldeb yw cynnal fflam y Ffydd a’i throsglwyddo i’r genhedlaeth iau fel y bydd addoliad i Dduw yn eglwys Padarn am filoedd o flynyddoedd eto.

Rydym yn credu ein bod yn rhan o’r Un Eglwys, Gatholig ac Apostolig.

Ein cenhadaeth yn Llanbadarn yw dweud wrth bawb am Gariad Duw’r Tad, fel y’i datguddiwyd i ni yn y Beibl yng Ngenedigaeth, Gweinidogaeth, Marwolaeth ac Atgyfodiad ei Fab Iesu Grist, a sut yr ydym ni, yn yr Eglwys gyfoes yng Ngheredigion yn dal i ddatgan ei gariad tuag atom a thuag at yr holl fyd drwy nerth a chymorth yr Ysbryd Glân. Rydym yn cyflawni hyn drwy ymwneud a phobl, heb ystyried eu hil na’u cred, ym mhob man lle mae pobl yn byw a bod; yn yr Eglwys, yn y gwaith, gartref, yn yr ysgol, yn yr ysbyty neu yn ystod amser hamdden.

Rydym yn dod ynghyd fel aelodau o deulu Duw i addoli Duw ar ddydd Sul, a defnyddiwn y Gymraeg neu Saesneg yn ein gwasanaethau (neu’r ddwy pan addolwn ar y cyd yn ddwyieithog). Down ynghyd hefyd i gadw Gwyliau’r Seintiau. Credwn ein bod yn gymuned groesawgar, a buasem wrth ein bodd petaech yn mynychu unrhyw un o’n gwasanaethau.

Mae’r gwasanaethau a gynhelir yn rhai traddodiadol Anglicanaidd yn dilyn Llyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 1984 a ffurfwasanaethau eraill sydd wedi’u hawdurdodi fel “Trefn ar gyfer y Cymun Bendigaid” a gyhoeddwyd yn 2004. Defnyddiwnrefn 2004 yn y prif-wasanaethau Cymraeg a Saesneg ar y Sul.

Fel arfer gwisgir urddwisgoedd priodol gan weinidogion yn ystod ein gwasanaethau.

Ein delfryd fel cynulleidfa o Gristnogion yw creu cymuned o weddi sy’n cyflwyno’r byd a ni ein hunain ger bron Duw.

Y mae Diogelwch Plant aac Oedolion Bregus yn bwysig iawn i ni i gyd, ac mae pob unigolyn sy’n gweithio gyda Phlant ac Oedolion Bregus yn cael eu gwirio.

Rhoi

I wneud cyfraniad i waith Padarn Sant, cliciwch yma , neu defnyddiwch eich ffôn symudol i ddarllen y cod QR hwn:

Dolen cod QR ar gyfer rhoi.